David WynROBERTS(Rhosmeirch, Ynys Môn) (Dafydd Burgess) Dymuna Linda, lan a'r teulu oll ddiolch o galon am y cymorth parod ar adeg trist o golli Dafydd. Roedd ei boblogrwydd yn amlwg iawn yn y dorf o bobol yn Eglwys Tregaian, a'r fynwent yn llawn ir ymylon o ffrindiau, ym myd amaeth, pêl droed, golff a Chlwb Porth Llechog yn arbennig lle bu'n Gapten a Llywydd. Diolch i'r Parchedig Llywelyn Moules-Jones am y gwasanaeth arbennig a theimladwy. Rydym hefyd fel teulu yn ddyledus iawn i Miss Elma Parry wrth yr offeren ac i Mr Michael Hooton am draddodir fendith yn yr Eglwys ac hefyd i'r Ymgymerwr angladdau Arwyn Hughes a'i gwmni ym Marian-glas am eu trefniadau proffesiynol a chartrefol braf. Diolch i bawb am bob cydymdeimlad ac am eich rhoddion hael sydd erbyn hyn ymhell dros £2000. Caiff y rhoddion hael fynd at Sefydlu Ysgoloriaeth Sioe Amaethyddol Ynys Môn a Tir Dewi er cof am Dafydd.
Keep me informed of updates